#

Y Pwyllgor Deisebau | 01 Mai 2018
 Petitions Committee | 01 May 2018
 
 
 , P-05-810 Rheoli Pysgodfeydd 
 
  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-810

Teitl y ddeiseb: Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

Testun y ddeiseb:

Rhwystro’r gormodedd o ddal a chadw Eogiaid drwy weithredu cyfyngiadau ar fagiau dal a chadw ar bob afon yng Nghymru am y 4 blynedd nesaf ar sail data penodol i ddalgylch mewn ymgynghoriad agos â chlybiau pysgota.

Gweithredu rhaglen stocio gynhwysfawr o bysgod brodorol ar bob afon.

Tynhau a gweithredu deddfwriaeth bresennol er mwyn dileu’r bygythiad o lygredd ffermio a llygredd diwydiant.

Rhwystro pob math o bysgota rhwydi masnachol ar raddfa fawr a gweithrediadau llongau ffactri o amgylch arfordir Cymru am gyfnod o 10 mlynedd.

Blaenoriaethu dyrannu adnoddau i gynorthwyo i reoli materion sy’n benodol i ddalgylchoedd sy’n gysylltiedig â chyfraddau ysglyfaethu naturiol gormodol a rhwystrau rhag ymfudiad pysgod.

Y cefndir

Rheoli pysgodfeydd mewndirol Cymru

Mae 33 afon yng Nghymru sydd â stociau o eogiaid, ac o’r rhain dynodir 23 yn brif afonydd i eogiaid (PDF 155KB). O’r 23 afon hyn, dynodwyd pedair yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd. Mae terfynau cadwraeth a thargedau rheoli ar waith ar y prif afonydd, ac mae’r rhain yn cael eu pennu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli pysgodfeydd mewndirol a physgodfeydd eogiaid yng Nghymru. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fel awdurdodau pysgodfeydd eraill yn y DU, bwerau i lunio is-ddeddfau cenedlaethol a lleol i gynorthwyo gyda chadwraeth stociau pysgod yn afonydd Cymru. Mae’r is-ddeddfau hyn yn rhoi nifer o gamau rheoli ymdrech ar waith i sicrhau bod defnyddio stociau’n digwydd ar lefelau cynaliadwy. Gall y rhain gynnwys camau fel cyfyngiadau o ran y gêr y gellir eu defnyddio i bysgota gwahanol rywogaethau, yr adegau o’r flwyddyn y gellir pysgota gwahanol rywogaethau ac o ran y lleoliadau y gall gwahanol rywogaethau gael eu pysgota. Un dull rheoli ymdrech o’r fath yw’r ‘cyfyngiad ar fagiau’, sef gofyniad sy’n cyfyngu ar faint o bysgod y gall pob person eu cymryd bob dydd. Hwn yw’r dull a ddefnyddir gan Inland Fisheries Ireland yn Rheoliadau Management of the Wild Salmon Fishery 2018. Dull arall yw ‘dal a rhyddhau’; dyma ofyniad i bob pysgotwr ddychwelyd unrhyw bysgod a ddelir ganddo i’r afon (heb eu lladd).

Stocio pysgod

Stocio pysgod yw’r arfer o fagu pysgod mewn deorfa a’u rhyddhau i’w cynefinoedd naturiol fel ffordd o gynyddu niferoedd pysgod. Defnyddir y dull hwn mewn pysgodfeydd hamdden fel ffordd o adfer niferoedd y pysgod. Yn ôl rhai sefydliadau, efallai nad stocio yw’r opsiwn rheoli orau bob tro ar gyfer pysgodfa neu gwrs dŵr, a gall defnyddio’r dull hwn gael effeithiau negyddol, trwy leihau amrywiad genetig a chyflwyno cystadleuaeth er enghraifft. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Brithyll Gwyllt doreth o adnoddau ar y pwnc hwn, gan gynnwys papur gan Wasanaeth Ymchwil Pysgodfeydd Gweithrediaeth yr Alban o 2003, To Stock or Not to Stock? (PDF 456KB) sy’n trafod y mater yn fanwl. Mae’n nodi:

Advice on stocking is contradictory. Proponents raise expectations of large additional catches if the stocked fish survive. Critics emphasise the heavy costs set against the modest, if any, gains shown from past stocking initiatives, as well as the potential threats to health and genetic integrity of existing fish. What is clear is that stocking should only be considered as one of a number of possible courses of action.

Mae sawl clwb pysgota yn penderfynu rhoi’r gorau i ailstocio, gan gynnwys Clwb Pysgota Dinbych a Chlwyd (PDF 234KB) ar Afon Clwyd.

Ysglyfaethu pysgod

Mae amryw o rywogaethau, gan gynnwys adar a mamaliaid, yn ysglyfaethu pysgod, ond mae’r effaith ar bysgodfeydd yn gymharol anhysbys. Canfu papur ymchwil gan Brifysgol Abertawe, Fisheries and predators In Wales: a preliminary consultation:

Fisheries perceived Great cormorant [Phalacrocorax carbo], Grey heron [Ardea cinerea], Eurasian otter [Lutra lutra], American mink [Mustela vison] and crows [Corvus sp.] to be the greatest threat to their business, with birds perceived as the biggest threat overall (54%). 

Mae’r Ymddiriedolaeth Brithyll Gwyllt wedi cyhoeddi Papur Gwybodaeth am Ysglyfaethu gan Adar. Mae’n nodi:

We believe that the primary focus for fishery interests in tackling predation problems should be the creation and maintenance of complex and varied habitat that gives fish a much greater chance of avoiding predators.

Llygredd amaethyddol

Mae atal llygredd dŵr yn hanfodol i ddiogelu ansawdd dŵr ac, o ganlyniad, iechyd dyfroedd Cymru a’u pysgod. Mae dulliau ffermio mwy dwys wedi arwain at gynnydd yn y llwyth nitrogen ar diroedd, a’r nitrogen a gollir i’r amgylchedd dyfrol. 

Nod y Gyfarwyddeb Nitradau (91/676/EC) yw lleihau ac atal llygru dŵr gan nitradau o fyd amaeth. O dan y Gyfarwyddiaeth, mae’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau nodi cronfeydd dŵr wyneb a dŵr daear sy’n cynnwys llawer o nitradau o ffynonellau amaethyddol, neu a allai fod yn eu cynnwys. Ar ôl i’r Aelod-wladwriaethau nodi cronfa ddŵr o’r fath, mae’n ofynnol iddynt ei dynodi’n Barth Perygl Nitradau. Mae’n ofynnol i unrhyw ffermwyr sy’n gweithredu o fewn Parth Perygl Nitradau ddilyn rheolau a chyfyngiadau penodol, sef ‘Rhaglen Weithredu’.

Mae’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau’r UE adolygu sut y maent yn gweithredu’r Gyfarwyddeb bob pedair blynedd. Mae’n ofynnol iddynt ddefnyddio canlyniadau’r adolygiad i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r dynodiadau Parth Perygl Nitradau a/neu i’r Rhaglen Weithredu. Troswyd y Gyfarwyddeb yng Nghymru gan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 sy’n darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi’r Gyfarwyddeb Nitradau yng Nghymru ac yn pennu’r gofynion sy’n orfodol o dan y Rhaglen Weithredu i ffermwyr Cymru sy’n gweithredu mewn ardaloedd a ddynodwyd yn Barthau Perygl Nitradau.

Pysgodfeydd môr masnachol

Cychod o dan 10 metr o hyd sy’n pysgota ar raddfa fach yw dros 90 y cant o’r fflyd pysgota yng Nghymru. Yn ôl ystadegau pysgodfeydd môr blynyddol ar gyfer y DU (Ystadegau MMO 2016) gan y Sefydliad Rheoli Morol, roedd 451 o gychod wedi’u cofrestru mewn porthladdoedd yng Nghymru a 753 o bysgotwyr wedi’u cyflogi yn y sector yn 2016 (roedd 320 neu 42 y cant ohonynt yn rhan-amser). O’r rhain, roedd 419 o gychod o dan 10 metr; a dim ond 32 o gychod oedd dros 10 metr o hyd.

Yn gyffredinol, mae cychod o dan 10 metr o hyd yn cael eu dosbarthu fel rhai graddfa fach gan nad oes ganddynt y gallu i bysgota ar y môr am gyfnodau hir na physgota’r môr mawr.

Datganolwyd rheolaeth dros bysgodfeydd i Gymru drwy Ddeddf Cymru 2017 a Choncordat Pysgodfeydd y DU. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoli a rheoleiddio pysgodfeydd rhynglanwol, masnachol a hamdden yng Nghymru, gan gynnwys ei moroedd tiriogaethol (0-12 milltir fôr) a Pharth Cymru (fel y nodwyd yng Ngorchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010).

Mae Gorchymyn 2010 yn rhoi i Weinidogion Cymru swyddogaethau cysylltiedig â physgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod yn yr ardal y tu allan i fôr tiriogaethol Cymru, ond o fewn cyfyngiadau pysgodfeydd Prydain a oedd yn flaenorol yn arferadwy yn unig gan Lywodraeth y DU. Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 yw’r brif Ddeddf a ddefnyddir ar gyfer rheoleiddio pysgota masnachol. Yn ogystal, mae Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (fel y’i diwygiwyd) yn rhoi i Weinidogion Cymru bwerau ychwanegol yn ymwneud â physgod cregyn. Mae Deddf Pysgodfeydd 1981 yn darparu ar gyfer rheoleiddio pysgota môr a gorfodi rheoliadau pysgodfeydd Ewropeaidd yn y DU, yn gysylltiedig â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Nid yw’r Gwasanaeth Ymchwil wedi dod o hyd i dystiolaeth o gychod rhwyd neu ffatri graddfa fawr sy’n gweithredu ger arfordir Cymru, a chadarnhawyd hyn gan Lywodraeth Cymru yn ei ymateb i’r ddeiseb hon.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi darparu llythyr mewn ymateb i’r ddeiseb hon (ynghlwm).

Rheoli pysgodfeydd mewndirol Cymru

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb dros reoli pysgodfeydd eogiaid yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r corff wedi bod yn mynd drwy broses o ystyried pa gamau ychwanegol y gall fod eu hangen, os o gwbl, i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn stociau eog yn afonydd Cymru.

Ar 17 Mawrth 2016, cyflwynwyd papuri Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan y corff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i fynd i’r afael â’r dirywiad o ran stociau. Mae hefyd yn amlinellu cynigion ar gyfer gweithredu pellach. Roedd y papur yn nodi, er nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn mai pysgota â gwialenni a rhwydi yw prif achos y dirywiad o ran stociau, mae’n credu y gellir cynyddu nifer y pysgod sy’n goroesi i’r cam silio mewn afonydd yng Nghymru, yn y tymor byr, ‘dim ond os bydd pysgotwyr gwialen a rhwyd yn rhoi’r gorau i’r lladd yn gyfan gwbl’. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan bod dal a rhyddhau yn ffafriol o’i gymharu â chau pysgodfeydd yn gyfan gwbl, gan fod hynny’n galluogi llawer o fanteision cymdeithasol-economaidd y pysgodfeydd i barhau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datgan ei fod wedi ymgynghori’n ffurfiol ac yn anffurfiol â physgotwyr a grwpiau pysgodfeydd lleol ar y camau posibl y gellir eu cymryd i reoli stociau eogiaid, gan gynnwys drwy holiadur.

Yn 2017, cynhaliodd NRW ymgynghoriad, Ymgynghoriadau rheoliadau dalfeydd eogiaid a sewin 2017. Roedd tair rhan i’r ymgynghoriad:

§    Y cais am Orchymyn Cyfyngu Net ‘Cymru Gyfan’ 2017 adnewyddedig;

§    Cynigion ar gyfer is-ddeddfau pysgota â gwialenni a rhwydi newydd trwy Gymru gyfan (ac eithrio afonydd trawsffiniol Dyfrdwy, Hafren a Gwy); a

§    Chynigion ar gyfer ‘Is-ddeddfau Trawsffiniol (Cymru)’ newydd i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r tair afon hynny.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru Grynodeb Gweithredol sy’n ymdrin â’r opsiynau a ystyriwyd. Dyma ei gasgliad ynghylch cyfnod o 10 mlynedd:

a ‘zero kill’ policy for salmon and some identified sea trout stocks through statutory catch-and-release fishing with appropriate restrictions on fishing methods – regulation of exploitation through new byelaw.

Stocio Pysgod

Mae stocio eogiaid a brithyllod môr yn ddull a ddefnyddiwyd yn flaenorol yng Nghymru i gynyddu niferoedd pysgod. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2013, adolygodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei weithgareddau stocio ar gyfer eogiaid a brithyllod môr a deorfeydd cysylltiedig:

Daeth yr adolygiad i’r casgliad, ar sail tystiolaeth wyddonol, fod defnydd Cyfoeth Naturiol Cymru a trydydd partïon o stocio eogiaid er mwyn cynyddu a lliniaru yn arwain at ganlyniadau gwael i boblogaethau eogiaid ac y gallai fod effeithiau negyddol.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2014, daethpwyd â’r dull stocio i ben ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr.

Llygredd Amaethyddol

Ar 29 Medi 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar yr adolygiad o Barthau Perygl Nitradau yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau am y cynigion ar gyfer dynodiadau Parth Perygl Nitradau yn y dyfodol a newidiadau i’r Rhaglen Weithredu bresennol. Mewn datganiad ysgrifenedig ar 13 Rhagfyr 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

...mae’n rhaid gwella’r ffordd y caiff ein dŵr ei warchod rhag llygredd amaethyddol. Rwyf o blaid cyflwyno dull cenedlaethol i ymdrin â llygredd nitradau sy’n deillio o waith amaethyddol.

Ar 22 Mawrth 2018, yn ystod gwaith craffu gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mewn ymateb i gwestiynau am lygredd amaethyddol a’r hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau nad yw ffermwyr yn parhau â’r camymddwyn ("malpractice"):

The voluntary approach clearly hasn’t worked on its own, so let’s have a voluntary approach with some regulation.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyn yr ymgynghoriad yn 2017 gan Gyfoeth Naturiol Cymru, trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb P-05-703 Cynnig i ohirio’r Cyfyngiadau ar Bysgota yn Afonydd Cymru. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i’w chau. Cytunodd hefyd ar anfon sylwadau’r deisebydd at Gyfoeth Naturiol Cymru cyn ymgynghoriad arfaethedig y Pwyllgor ar fesurau rheoli stoc eogiaid a oedd i’w gynnal yn wreiddiol tua diwedd 2016/dechrau 2017.

Mewn cwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2018, gofynnodd Neil Hamilton AC i Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, roi barn ynglŷn â "chynigion... i roi polisi dal a rhyddhau gorfodol ar waith am 10 mlynedd". Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod hin "aros i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno eu hargymhellion".

Cododd Neil Hamilton AC y mater o "ysglyfaethu gan adar sy’n bwyta pysgod" a "graddau llygredd afonydd". Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet y "cryn dipyn o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd", gan nodi y byddai’n gofyn i Weinidog yr Amgylchedd godi’r mater gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyfarfod rheolaidd nesaf.

Ar 15 Chwefror 2018, gofynnodd Janet Finch-Saunders AC gwestiwn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, gan ofyn iddi "roi cyfiawnhad dros yr argymhelliad... y dylid cyflwyno polisi dal a rhyddhau". Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

NRW will now make a formal application to me to determine the byelaws under the Water Resources Act 1991.

Once I receive the formal application from NRW, hopefully later this month, I will consider the range of issues in detail before making a determination in line with the process set out in the Act. However, until this process is completed I am unable to comment further on the proposals.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.